Newyddion S4C

Dafydd Wigley i ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi

Newyddion S4C 12/06/2022

Dafydd Wigley i ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi

Wedi 50 mlynedd mewn gwleidyddiaeth mae'r Arglwydd Dafydd Wigley wedi penderfynu ymddeol o Dŷ'r Arglwyddi.

Wrth siarad ar Raglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywedodd ei fod yn troi'n 80 y flwyddyn nesaf a'i fod yn credu mai dyna fydd yr amser "i fod yn galw terfyn ar bethau".

Fe gafodd Mr Wigley ei ethol yn gynghorydd i Blaid Cymru ym Merthyr yn 1972, cyn cynrychioli Caernarfon yn Nhŷ’r Cyffredin rhwng 1974 a 2001.

Roedd yn Aelod o'r Cynulliad rhwng 1999 a 2003 ac mae wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2011.

"Pan ddes i Dŷ'r Arglwyddi gyntaf ddeng mlynedd yn ôl, doedd aelodau fan hyn ddim yn cael ymddeol, mi oedda nhw'n mynd allan pan oedda nhw'n marw. Ond wrth gwrs mae na hawl i ymddeol wedi dod i fewn.  

Ac mae'n credu bod 10 mlynedd fel Arglwydd yn ddigon. 

"Pan ddes i fewn, mi o'n i'n meddwl, os dwi'n cael degawd yma, os dwi'n gallu cyfrannu am ddegawd, falla fod hynny yn ddigon". 

Nid yw'r cyn arweinydd Plaid Cymru ddim am bennu dyddiad penodol ar gyfer ei ymddeoliad eto, ond fel unig aelod y blaid yn Nhŷ’r Arglwyddi dywedodd ei fod eisiau rhoi cyfle i'r "blaid ac i Gymru benderfynu beth yw ein hagwedd ni tuag at anfon aelodau i ail siambr senedd Llundain".

"Yda ni am ddilyn yr un patrwm a'r SNP, sydd ddim yn rhoi aleodau yma? 

"Dwi fy hun yn teimlo fod yna waith i'w wneud yma ond dydio ddim yn waith y gellir ei wneud, os nad ydi plaid yn cael y parch y dyle nhw gael, a mae hynny yn golygu cael tim iawn".

Mae'n awyddus i gyngor cenedlaethol Plaid Cymru benderfynu os ydyn nhw am weld aelodau eraill o'r blaid yn ei ddilyn i Dŷ'r Arglwyddi, a hynny cyn iddo fynd, “fel nad oes yna gyfnod o ansicrwydd". 

"Yn fy marn i , os yda ni'n cael aelodau yma dylsa ni fod efo cymaint o aelodau a sydd yn Nhŷ’r Cyffredin. 

"Ac mi fyswn i'n gobeithio y byddai rheiny yn cael eu hethol gan y blaid fel bod na rhyw sail ddemocrataidd.

"Ond mewn llawnder amser os oes na ddyfodol o gwbwl i Dŷ’r arglwyddi mae'n rhaid troi'n etholedig i roi ryw fath o nerth i'n llais". 

Dafydd Wigley yw’r unig wleidydd o Blaid Cymru i fynd i’r Ail Siambr gyda bendith ei blaid.

'Dadlau ein hachos ni'

Roedd Plaid Cymru yn gwrthwynebu enwebu aelodau i’r ail siambr tan 2007.

Erbyn hynny roedd gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu, ond dim ond gyda chaniatâd y ddwy siambr yn San Steffan.

Ac yn ôl yr Arglwydd Wigley  "roedd hi'n bwysig fod gennym ni lais yma i ddadlau ein hachos ni".

Fe addawyd tair sedd i Blaid Cymru gan y llywodraeth Lafur ar y pryd, a dewiswyd Dafydd Wigley, Eurfyl ap Gwilym a Janet Davies wedi pleidlais yn eu cyngor Cenedlaethol yn Ionawr 2008.

"Fe gafom ni ein harwain i gredu y byddai'r tri ohonom yma o fewn wythnosau".

Roedd y trafodaethau cyntaf wedi digwydd tra roedd Tony Blair yn Brif Weinidog, ond erbyn 2008, Gordon Brown oedd yn Rhif 10.

 "Yn ôl beth ddywedodd aelodau Llafur wrtha'i wedyn roedd Gordon Brown wedi dweud "over my dead body does any nationalist go into that chamber".

 "Ac felly o 2007 tan 2010 fe gawsom ni ein rhwystro, fe ddaru nhw wrthod cyflawni yr addewid".

 Yn y diwedd fe gafodd Dafydd Wigley ei wneud yn Arglwydd yn 2010, pan ddaeth David Cameron yn Brif Weinidog.

 Ond roedd o dan yr argraff y byddai yna ddau arall yn ei ddilyn ac "fe fradychwyd eto yr addewid yna", meddai, "gan y Torïaid y tro yma".

 "Mae trio rhedeg plaid un person mewn siambr o 700 o aelodau, efo'r holl ystod o bolisiau, llawer iawn ohonyn nhw'n berthnasol i Gymru. Mae'n nesa peth i amhosib, a'r baich gwaith yn mynd yn sylweddol.

"Mae na derfyn ar faint mae un person yn gallu gwneud yn trio rhwyfo cwch o'r fath".  

Wedi cymryd rôl ganolog yng ngwleidyddiaeth Cymru am ddegawdau, mae o'n annhebyg o roi ei draed i fyny yn llwyr ar ôl ymddeol.

Er y bydd o'n gadael gwleidyddiaeth, dywedodd yr Arglwydd Wigley y bydd o'n parhau i gyfrannu tuag at fywyd cyhoeddus Cymru am beth amser eto. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.