Newyddion S4C

Pryderon am fferm solar yn cynhyrfu ymgyrchwyr gwrth-niwclear yn Ynys Môn

Paneli solar

Mae ymgyrchwyr gwrth-niwclear wedi barnu aelod seneddol Ynys Môn Virginia Crosbie am ddweud fod fferm solar arfaethedig yn medru gwneud “niwed".

Dywedodd Mrs Crosbie, sy’n gefnogol i ynni niwclear yn Ynys Môn, fod cynlluniau am fferm solar yng ngogledd ddwyrain yr ynys yn “aberthu ardaloedd eang o dir amaethyddol.”

Dywedodd yr ymgyrchwyr y dylai Mrs Crosbie “aroglu’r coffi” a bod ynni niwclear yn “lawer mwy o fygythiad i ddynol ryw.”

Mae cwmni Lightsource BP wedi cyflwyno cynlluniau rhagarweiniol i’r gymuned.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.