Manic Street Preachers yn canslo cyngerdd ar ôl i James Dean Bradfield ddal Covid

Mae’r Manic Street Preachers wedi canslo cyngerdd yn Peterborough ar ôl i’w prif leisydd James Dean Bradfield ddal Covid.
Mewn datganiad, dywedodd y grŵp o’r Coed Duon: “Rydym yn siomedig iawn ein bod yn gorfod gohirio ein sioe yn Peterborough Embankment ddydd Sul oherwydd bod James Dean Bradfield wedi dal Covid. Rydym yn gobeithio ail-drefnu cyn gynted â phosib.”
Roedd y grŵp i fod i chwarae yn y lleoliad am y tro cyntaf fel rhan o’u taith haf.
Ychwanegodd y grŵp y byddan nhw yn cysylltu gyda deiliaid tocynnau o fewn y 48 awr nesaf.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Manic Street Preachers