Heddlu Brasil yn dod o hyd i ‘weddillion dynol’ wrth chwilio am newyddiadurwr Prydeinig

Mae’r heddlu ym Mrasil sy’n ymchwilio i ddiflaniad y newyddiadurwr Dom Phillips a Bruno Pereira wedi dod o hyd i ‘weddillion dynol” posib.
Bydd arbenigwyr yn ymchwilio’r gweddillion a ganfuwyd ger tref Atalaia do Norte mewn rhan anghysbell fforest glaw'r Amazon.
Aeth y ddau ar goll wrth deithio mewn cwch yn yr ardal ddydd Sul.
Roedd heddlu wedi dod o hyd i olion gwaed mewn cwch pysgotwr lleol.
Mae’r pysgotwr wedi cael ei arestio ac mae’r cwch hefyd yn cael ei archwilio.
Darllenwch fwy yma.
LLun: Twitter/Dom Phillips