Ynys Melys: Podlediad newydd i ‘drafod Love Island trwy’r Gymraeg’
Ynys Melys: Podlediad newydd i ‘drafod Love Island trwy’r Gymraeg’
Gyda Love Island yn ôl am gyfres arall o chwilio am gariad yn yr heulwen, mae dau ffrind wedi mynd ati i greu podlediad am y gyfres yn y Gymraeg.
Mae Ellis Lloyd Jones a Melanie Owen ill dau wedi dechrau gwylio’r gyfres yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac wedi dechrau cyflwyno podlediad gyda’i gilydd.
Mae’r ddau yn gobeithio y bydd podlediad Ynys Melys yn agor y drws i drafod pob math o gyfresi yn y Gymraeg.
“Mae pobol Cymraeg dal i wylio pethe sy’ ddim trwy gyfrwng y Gymraeg, ni dal mynd i fod yn trafod hynny. Felly pam na fyswn ni isho trafod e trwy’r Gymraeg? Dylsen ni ddim fod yn ofn o hynny,” meddai Melanie.
“Dy’n ni mynd i fod yn hala gymaint o amser yn gwylio Love Island so o’dd y ddau o ni fel might as well i ni gwneud rhywbeth cynhyrchiol gyda hwn.”
Yn ôl Ellis, roedd podlediad Cwîns wedi ysbrydoli y ddau i gychwyn y pod.
“So’r un peth sy’n popo mewn i pen fi yw’r podlediad Cwîns gan Mari Beard a Meilir Rhys Williams,” meddai.
“O’dd hwnna i fi yn ground-breaking achos fi erioed ‘di clywed rhywun yn siarad fully am cyfres fel Drag Race yn y Gymraeg.”
Ymhlith y cystadleuwyr ar yr ynys eleni mae Cymraes, gyda Paige Thorne y parafeddyg o Abertawe yn cynrychioli’r wlad.
Dywedodd Melanie: “Dwin bacio Paige 100%. Dwi’n meddwl ma’ hi mor neis yn ei ewyllys hi. Jyst pwy yw hi, a obviously mae’n stunning, a mae’n Chymraes a ma’ pawb yn hoffi Cymraes yn dydyn?”
Ychwanegodd Ellis: “Mae jyst mor lysh, mor funny a fi’n meddwl ma’r peth Cymraeg amdano fe sy’n ‘neud i fi deimlo’n fwy cysylltiedig gyda hi.
"Achos ni’n Cymraeg ni’n fel deall ein gilydd mewn ffordd."
Bu Cymro yn fuddugol y llynedd, gyda Liam Reardon o Ferthyr Tudful yn cwrdd â’i gariad newydd Millie Court ac yn cipio’r wobr o £50,000.
Mae’r podlediad yn cael ei ryddhau ddwywaith yr wythnos, bob dydd Mercher a dydd Sul ac yn dadansoddi hyn a helynt y fila.