Newyddion S4C

Ffilifest 'i roi hwb i’r iaith yng Nghaerffili’

Newyddion S4C 10/06/2022

Ffilifest 'i roi hwb i’r iaith yng Nghaerffili’

Ar ôl "cyfnod heriol" mae trefnwyr gŵyl Ffilifest yng Nghaerffili yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn rhoi hwb i'r iaith yn lleol.

Dyw'r ŵyl ddim wedi cael ei chynnal wyneb yn wyneb ers dwy flynedd oherwydd Covid-19.

Yn ôl Lowri Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Caerffili mae'r ŵyl yn bwysig i'r iaith yn lleol.

"Mae e’n allweddol i blant a phobl ifanc yn yr ardal i gymryd rhan mewn cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol, cwrdd â phlant eraill sy’n siarad Cymraeg yn lleol a dysgu mwy am eu diwylliant a’n treftadaeth ni yn lleol ond hefyd mae e’n ddigwyddiad i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ac sydd eisiau dysgu am y Gymraeg."

Image
S4C
Mae Ffiliffest yn dychwelyd am y tro cyntaf ers cyn y pandemig.

Yn Ysgol Gynradd Gymraeg y Castell mae'r plant wedi bod yn ymarfer dawnsio gwerin ar gyfer perfformio yn Ffilifest. 

Yn ôl y dirprwy Gareth Hughes roedd y cyfnodau clo wedi cael effaith ar iaith y plant.
 
"Yn sicr mae yna effaith wedi bod... mae hi wedi bod yn frwydr i gael y plant i ail gydio yn yr iaith yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar ond trwy brosiectau yn yr ysgol ry' ni wedi mynd ati i ail afael ynddi."
 
Doedd yr iaith ddim mor weledol yn ystod y cyfnod hwnnw meddai.
 
"Mae gymuned yr ysgol mor bwysig i ni yn Ysgol y Castell ac ry' ni wedi colli cyfleodd i gael rhieni drwy'r drysau ac i fynd a'r iaith tu allan i glwyd yr ysgol," meddai.

"Ry' ni ishe datblygu dysgwyr sydd yn cadw'r iaith yn fyw nid yn unig yn yr ystafell ddosbarth ond yn y gymuned ac mae Ffilifest yn gyfle gwych i wneud hynny."

Mae'r plant hefyd yn edrych ymlaen. Yn ôl Gwen mae digwyddiadau fel Ffilifest yn bwysig.
 
"Does dim llawer o gyfle i siarad Cymraeg tu fas yr ysgol so mae'n hwyl i allu neud e lle mae llawer o bobl yn," meddai.
 
Mae Sam, un arall o'r disgyblion yn cytuno: "Mae'n gyfle gwych i siarad Cymraeg tu fas yr ysgol ac yn ffenest siop i bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg."
 
Mae gwaith cynnal a chadw yn y Castell yn golygu fod yr ŵyl yn digwydd ar gaeau chwarae Owain Glyndŵr eleni.

Yn ôl David Roberts sy'n gynghorydd tre, mae gallu cynnal digwyddiadau unwaith eto yn hwb i'r dre. 

"Be' sy'n neis yw bod pobl yn dod o'r gogledd ac o'r gorllewin i weld y bandiau ac yn cymysgu gyda ni yng Nghaerffili," meddai.

"Mae'r profiadau mae pawb yn mynd i'w cael o'r dre mynd i fod fel oedden nhw dair blynedd 'nôl.

"Mae'n bwysig cynnig profiadau sy’n berthnasol iddyn nhw, sydd o ddiddordeb iddyn nhw a dangos fod y Gymraeg yn iaith hyfyw yn lleol a bod nhw’n gallu mwynhau a dilyn diddordebau trwy gyfrwng y Gymraeg a gweld enghreifftiau o bobl ifanc eraill sydd wedi gallu datblygu gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg fel bod gyda nhw wedyn yr uchelgais i wneud yr un peth."

Fe fydd Candelas, Eadyth a Plu ymhlith yr artistiaid ac mae Lowri Jones yn teimlo ei bod hi'n bwysig bod plant yn clywed perfformwyr Cymraeg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.