Heddlu'n ymchwilio ar ôl i ladron ddwyn o ysgol anghenion arbennig yn Llanelli
Heddlu'n ymchwilio ar ôl i ladron ddwyn o ysgol anghenion arbennig yn Llanelli
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ladron dorri i mewn i ysgol anghenion arbennig yn Llanelli dros gyfnod hanner tymor.
Cafodd ffenestri ac adnoddau dosbarth eu difrodi yn adeilad hŷn yr ysgol ac fe gafodd tua £80 ei ddwyn a oedd wedi'i gynilo gan y disgyblion ar gyfer dawns ddiwedd tymor.
Cafodd o leiaf un iPad ei ddwyn yn ogystal.
Y gred yw bod y lladron wedi cael mynediad trwy'r to ac yna malu ffenestri er mwyn ffoi.
Mae Ysgol Heol Goffa yn ysgol i ddisgyblion 3-19 oed gydag anawsterau dysgu dwys a chymhleth ac yn gwasanaethu Sir Gaerfyrddin.
Nid yw'n arfer i arian gael ei gadw yn yr ysgol ac roedd rhai cannoedd o bunnoedd wedi cael eu gosod yn y banc yn gynharach yn yr wythnos.
Ond roedd un o'r disgyblion wedi cynnal gweithgareddau ar ddiwedd yr wythnos ac wedi methu cyrraedd y banc mewn pryd.
Mae'r gymuned wedi ymateb yn anhygoel, yn ôl y pennaeth Ceri Hopkins.
Mae nifer o weithgareddau wedi’u trefnu yn y gymuned gan gynnwys rasys hwyaid a rafflau ac mae pobl wedi cynnig darparu bwyd a diod i’r disgyblion ar gyfer y ddawns.
Mae cwmni bysys lleol wedi cynnig darparu cludiant i’r disgyblion ar y diwrnod.
Mae unigolion a chymdeithasau wedi lansio ymgyrchoedd codi arian ar gyfer y ddawns ac wedi cynnig adnoddau ac amser i'r ysgol yn gyffredinol.
Ychwanegodd Helen Ley, dirprwy bennaeth yr ysgol: "Mae hwn yn rhwbeth ofnadwy i ddigwydd mewn unrhyw ysgol.
"Yn naturiol mae'r disgyblion wedi ypseto ond mae ymateb y gymuned wedi codi calon ac ysbryd pawb.
"Hoffwn i ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi dod at ei gilydd i helpu ac i'r sawl sydd wedi rhoi gwybodaeth i'r heddlu.
"Mae'n dangos bod mwy o ddaioni yn bodoli na drwg."