Newyddion S4C

Marwolaeth Jack Lis: Carcharu dau am fod yng ngofal ci peryglus

10/06/2022
jack lis

Yn Llys y Goron Caerdydd mae dau o bobl wedi eu carcharu am fod yng ngofal ci peryglus oedd yn gyfrifol am ladd bachgen 10 oed ym mis Tachwedd y llynedd.

Bu farw Jack Lis ar ôl i'r ci ymosod arno wrth iddo chwarae mewn tŷ cyfaill iddo ym Mhentwyn ger Penyrheol yn Sir Caerffili.

Cafodd Brandon Hayden, 19 oed, ddedfryd o bedair blynedd a chwe mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc ac fe gafodd Amy Salter sydd yn 29 oed dair blynedd o garchar.

Roedd Salter a Hayden wedi pledio'n euog o fod yng ngofal ci peryglus oedd allan o reolaeth gan achosi anafiadau arweiniodd at farwolaeth mewn gwrandawiad blaenorol.

Roedd Hayden hefyd wedi pledio'n euog i bum cyhuddiad arall o fod yng ngofal ci peryglus rhwng 4-7 Tachwedd y llynedd.

Roedd nifer o aelodau o deulu Jack Lis yn y gwrandawiad yng Nghaerdydd ddydd Gwener.

Mewn teyrnged iddo yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd ei deulu na fyddai eu bywydau "fyth yr un fath" heb Jac.

"Rydym yn hollol dorcalonnus. Fydd ein bywydau ni byth yr un peth heb Jack: “Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw riant orfod ei ysgrifennu.

“Mae gennym ni gymaint o eiriau rydyn ni eisiau eu dweud am ein bachgen hardd, ond dydyn nhw ddim yn ddigon.

“Rydyn ni'n ei garu yn fwy nag y gall geiriau ei ddisgrifio. Fe wnaeth ein bachgen ni'r rhieni a'r teulu mwyaf balch ar y blaned.

“Mae yn ein calonnau am byth. Breuddwydion melys Jac, ein bachgen perffaith.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.