Liz Truss i drafod dedfrydau marwolaeth dau filwr o Brydain gyda Gweinidog Tramor Wcráin

Bydd Gweinidog Tramor y DU, Liz Truss, yn trafod dedfrydau marwolaeth dau filwr o Brydain gyda Gweinidog Tramor Wcráin ddydd Gwener.
Cafodd Aiden Aslin, 28, o Sir Nottingham a Shaun Pinner, 48, o Sir Bedford eu dal ym mis Ebrill, cyn ymddangos mewn llys yng Ngweriniaeth Pobl Donetsk, sy'n cael ei reoli gan wrthryfelwyr sy'n deyrngar i Rwsia.
Mae’r ddau wedi eu cyhuddo o fod yn hurfilwyr. Mae eu teuluoedd yn dadlau eu bod yn ymladd fel aelodau o fyddin Wcráin.
Mae Ms Truss wedi datgan bod penderfyniad y llys yn "ddyfarniad ffug" gan fynnu nad oes iddo "unrhyw gyfreithlondeb", ac mae disgwyl iddi drafod gyda Gweinidog Tramor Wcráin, Dmytro Kuleba, dros y ffôn ddydd Gwener.
Mae trydydd dyn o Moroco, Saaudun Brahim, hefyd wedi cael ei ddedfrydu i farwolaeth.
Darllenwch y stori'n llawn yma.