Ymosodiad ar y Capitol: Trump 'yn ganolog' i'r anhrefn medd pwyllgor

Mae pwyllgor dethol o Dŷ'r Cynrychiolwyr sydd yn ymchwilio i ymosodiad ar adeilad y Capitol yn Washington yn Ionawr 2021 wedi clywed honiadau fod y cyn-arlywydd Donald Trump wedi "chwarae rhan ganolog" yn y terfysg ar y diwrnod.
Clywodd y gwrandawiad mai bwriad Mr Trump ar 6 Ionawr y llynedd oedd parhau fel arlywydd ei wlad er ei fod wedi colli'r etholiad arlywyddol, a'i fod yn ganolog i'r ensyniadau fod canlyniad yr etholiad wedi ei 'dwyn' gan y Democratiaid.
— January 6th Committee (@January6thCmte) June 10, 2022
Bwriad y pwyllgor yw i gyflwyno dadansoddiad manwl o'r digwyddiadau treisgar yn y Capitol, a'r ymgyrch i wyrdroi canlyniad yr etholiad arlywyddol yn 2020.
Mae Mr Trump wedi gwadu bod yn rhan o gynllwyn i wyrdroi canlyniad yr etholiad.
Disgrifiodd yr hyn ddigwyddodd yn y Capitol "fel y mudiad gorau erioed i Wneud America'n Wych Eto". Bydd y gwrandawiad yn parhau wythnos nesaf ac fe all rhagor o wrandawiadau gael eu cynnal ym mis Medi.
Darllenwch ragor yma.