Colli bron i 300 o swyddi ar ôl i gwmni ynni yn y de fynd i'r wal

Swyddfa Consumer Energy Solutions yn Abertawe
Consumer Energy Solutions Abertawe

Mae bron i 300 o swyddi wedi diflannu ar ôl i gwmni ynni yn y de fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dywedodd City Energy Group y byddan nhw'n ailstrwythuro sy'n golygu y bydd cannoedd o swyddi'n cael eu colli yn Consumer Energy Solutions yn Abertawe a Threorci lle mae'r cwmni yn cyflogi 295 o bobl.

Mae datganiad ar wefan Consumer Energy Solutions yn dweud fod gweinyddwyr wedi cael eu penodi. 

Ychwanegodd fod y cwmni wedi "rhoi'r gorau i fasnachu ar unwaith" ac na fyddan nhw'n gallu cwblhau unrhyw waith pellach i gwsmeriaid.

"Gan fod Consumer Energy Solutions wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ni fyddwn yn gallu cynnal unrhyw waith adfer na thrwsio, nac i symud ymlaen na datrys unrhyw gwynion presennol," meddai'r datganiad.

"Os ydych wedi cael gosodiad wedi'i gwblhau gan Consumer Energy Solutions ac yn profi unrhyw broblemau yr ydych yn credu bod angen eu trwsio, rydym yn eich cyfeirio at ddarparwyr gwarant yswiriant a fydd yn gallu rhoi cyngor."

Dywedodd City Energy Group yn flaenorol eu bod yn ailstrwythuro oherwydd bod y cynllun ynni ECO4, sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth y DU, yn dod i ben.

Nod y cynllun oedd helpu perchnogion tai i arbed ar uwchraddio systemau ynni, fel inswleiddio, paneli solar a phympiau gwres.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diogelwch Ynni a Net Sero Llywodraeth San Steffan nad oedd cynlluniau ECO a GBIS yn "darparu gwerth am arian."

"Yn hytrach, rydym yn buddsoddi £1.5 biliwn ychwanegol yn ein Cynllun Cartrefi Cynnes, a'i gymryd at bron i £15 biliwn.

"Dyma'r buddsoddiad cyhoeddus mwyaf erioed i uwchraddio cartrefi a mynd i'r afael â thlodi tanwydd," meddai'r llefarydd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.