Eryri: Yr heddlu'n galw ar bobl i beidio parcio mewn llefydd 'chwerthinllyd'
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw ar ymwelwyr i yrru a pharcio’n gyfrifol a diogel os yn teithio i Eryri, yn dilyn aflonyddwch sylweddol ym Mhen y Pass y penwythnos diwethaf.
Mae pryderon cynyddol y bydd rhagor o dywydd gaeafol yn denu mwy o bobl i ardal Eryri, gan arwain at achosion o barcio "chwerthinllyd" mewn rhai ardaloedd.
Dywedodd Arolygydd Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru, Jason Diamond,: “Roedd yn siomedig iawn gweld ymddygiad mor anghyfrifol y penwythnos diwethaf gyda phobl yn gadael cerbydau mewn lleoliadau parcio chwerthinllyd, gan achosi’r effaith ‘os ydynt yn ei wneud, dwi am neud hefyd’ ac yn cynyddu risg i’w hunain ac eraill yn enfawr.
“Deallwn fod yr ardal yn un hynod o brydferth – yn fwy felly gyda blanced o eira, ond mae’n rhaid i synnwyr cyffredin barhau i fodoli.
“Mae gadael cerbydau ar ymylon ffyrdd ag eira arnynt a gwthio eraill i mewn i lwybrau cerbydau sy’n dod i’r gwrthwyneb yn cynyddu’r risg o ddychwelyd i gerbydau sydd wedi’u difrodi, ond yn y gwaethaf, mae’n cynyddu’r risg o anafiadau personol difrifol."
Lluniau Instagram
Ychwanegodd: “Yn anaml byddwn yn cael eira fel yr ydym wedi’u gweld yn ystod y dyddiau diwethaf, felly nid yw llawer o bobl wedi arfer gyrru ar eira a rhew, felly mae ymddygiad anghyfrifol er budd taith gerdded neu cael lluniau ar gyfer Instagram yn cynyddu’r galw am ein gwasanaethau brys a gwirfoddolwyr a allai fod yn canolbwyntio ar ddelio ag argyfyngau go iawn.
“Cymryd cerbydau sydd wedi eu gadael mewn sefyllfaoedd peryglus - er ei fod bob amser yn opsiwn, mae angen rheoli risg mewn amodau o’r fath, er na fydd rhai, rydym bob amser yn gweithio gyda diogelwch mewn cof. Ac mae adeiladu meysydd parcio mewn parc cenedlaethol yn llawer fwy cymhleth nag y mae’n swnio!
“Os ydych yn bwriadu ymweld â’r ardal, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parcio’n gyfrifol ac yn synhwyrol. Bydd awdurdodau lleol yn anfon eu swyddogion gorfodi allan ac yn rhoi rhybuddion i unrhyw gerbydau sydd wedi parcio’n anghyfreithlon.”
'Parchu eraill'
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Amgylchedd: “Mae’r eira a’r rhew diweddar wedi creu naws a golygfeydd bendigedig yma yng Ngwynedd, a rydym eisiau i bawb fedru mwynhau hyn yn ddiogel. Os ydych yn dod i ardaloedd fel Pen y Pass i gerdded neu i weld y golygfeydd, os gwelwch yn dda cynlluniwch eich ymweliad yn ofalus a pharchu pobl eraill a’n cymunedau.
“Rydym yn gofyn i bobl barcio yn gyfrifol a pheidio rhwystro’r ffordd i eraill. Bydd ein swyddogion yn cydweithio gyda’n partneriaid o awdurdodau eraill gyda’r bwriad o gadw y ffordd yn glir.
“Rydym hefyd yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ble mae hyn yn bosib, gan gadw mewn cof fod gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa yn rhedeg ar yr amserlen gaeaf, sy’n golygu fod y bysiau’n rhedeg yn llai aml.
“Oherwydd natur fynyddig a gwledig yr ardal, dylai ymwelwyr hefyd gofio gall y tywydd effeithio’r lonydd, sy’n cael effaith domino ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os gwelwch yn dda, gwiriwch rhagolygon y tywydd a gwybodaeth am y ffyrdd cyn cychwyn.”