Wrecsam yn curo Forest mewn gêm ddramatig yng Nghwpan yr FA

Wrecsam v Nottingham Forest

Bydd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ym mhedwaredd rownd Cwpan yr FA nos Lun, ar ôl iddyn nhw guro Nottingham Forest o'r Uwch Gynghrair nos Wener ar giciau o'r smotyn.     

Roedd cyd berchennog Wrecsam, yr actor Hollywood Ryan Reynolds, yn bresennol yn y dorf i wylio buddgoliaeth ei dîm yn nhrydedd rownd y cwpan, ar ôl i'r gêm orffen wedi 90 munud yn 3-3.

Roedd Wrecsam ar y blaen o 2-0 ar ôl hanner cyntaf y gêm, wedi i Liberato Cacace ac Oliver Rathbone sgorio. 

Sgoriodd Igor Jesus wedi 20 munud o chwarae yn yr ail hanner dros Nottingham Forest, cyn i beniad Dominic Hyam ei gwneud hi'n 3-1 i Wrecsam gyda chwarter awr yn weddill i'w chwarae ar y Stok Cae Ras. 

Ond ddwy funud yn ddiweddarach, sgoriodd Callum Hudson-Odoi dros Forest i'w gwneud yn 3-2 cyn iddo sgorio eto ym munud ola'r gêm i'w gwneud yn 3-3. 

Doedd dim goliau yn yr amser ychwanegol, ac fe aeth i giciau o'r smotyn gyda Wrecsam yn ennill 4-3. 

Yn y Bencampwriaeth, mae Wrecsam yn y nawfed safle ar hyn o bryd, un pwynt yn brin o'r gemau ail gyfle.   

Llun: Clwb Pêl-droed Wrecsam

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.