Maxine Hughes: Tensiynau 'digynsail' yn yr Unol Daleithiau wedi achosion o saethu

Newyddion S4C

Maxine Hughes: Tensiynau 'digynsail' yn yr Unol Daleithiau wedi achosion o saethu

Mae’r newyddiadurwraig Maxine Hughes yn dweud bod “tensiynau yn codi” rhwng cefnogwyr Donald Trump ar ôl wythnos gythryblus yn America. 

Wedi dau achos o saethu'n ymwneud â swyddogion ffederal America yr wythnos hon, mae Maxine – sy’n wreiddiol o Sir Conwy ond bellach yn byw yn Washington D.C. yn yr Unol Daleithiau – wedi disgrifio’r amodau fel rhai “digynsail.” 

Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd: “I fi, mae fe’n edrych fel ‘da ni’n ail byw yr un sefyllfa â thro dwetha’ pan oedd Donald Trump yn y Tŷ Gwyn. 

“Trais, protestiadau, gwlad wedi cael ei hollti yn gyfan gwbl.

“Ond y tro ‘ma, mae’n wahanol achos mewn ffordd mae’n teimlo fel bod ‘na dri grŵp gwahanol.

“Mae ‘na y chwith – y Democratiaid, mae gen ti y pobl sydd dal yn cefnogi Donald Trump, a wedyn y mudiad MAGA sydd wedi mynd yn erbyn Donald Trump. 

“Ac mae ‘na gymaint o densiwn tu mewn y mudiad MAGA rŵan a fi’n siŵr be ddigwyddodd yn Minneapolis yn mynd i achosi lot mwy o drais a lot mwy o densiwn rhwng y mudiad ‘na.” 

Image
ICE
Yr eiliadau cyn i Renee Nicole Good gael ei saethu'n farw ym Minneapolis

'Creu sŵn'

Mae’r Arlywydd Trump wedi bod yn y penawdau yn gyson yn ystod y dyddiau diwethaf, wedi iddo orchymyn ymosodiad pan gafodd Arlywydd Venezuela, Nicolás Maduro a'i wraig, Cilia Flores eu cipio ddydd Sadwrn diwethaf. 

Mae Mr Trump hefyd wedi bygwth ystyried opsiynau i gymryd rheolaeth o'r Ynys Las yn yr Arctig, gan gynnwys cymryd camau milwrol. 

Yn ôl Maxine Hughes, mae ‘na bosibilrwydd mai dull o “greu sŵn” yw hwn ar ran yr Arlywydd Trump.

“Mae e'n ymwybodol am y ffaith bod ei gefnogwyr yn dechrau troi yn erbyn e,” meddai. 

“Felly mae'n dweud wel, mae genny' fi midterms yn dod i fyny, be' fi'n gallu 'neud i creu sŵn, dangos bo' fi'n gryf a fi'n newid petha', wel mae'n mynd mewn i Venezuela, mae falle'n mynd mewn i Greenland. 

“Mae wedi addo 'neud lot o bethau fel rhyddhau yr Epstein files, dydy hynny ddim wedi digwydd yn gyflym iawn, ma' dal gyda ni yr Epstein files i ddod, a mae pobl yn flin am hynna. 

“A mae Donald Trump mewn ffordd yn - dwi'm yn deud panicio - ond mae e'n bendant yn bihafio mewn ffordd digynsail.”

Image
Protestiadau

Protestiadau

Ddydd Mercher, fe gafodd menyw 37 oed o’r enw Renee Nicole Good ei saethu’n farw gan aelod o asiantaeth gwrth-mewnfudo anghyfreithlon ICE ym Minneapolis, gan danio protestiadau trwy gydol y ddinas. 

Fe ddisgrifiodd Adran Diogelwch Mewnol Llywodraeth yr Unol Daleithiau Ms Good fel "terfysgwr treisgar" a geisiodd fwrw swyddogion gyda’i char – gyda’r Arlywydd Trump yn dweud fod swyddog ICE wedi cael ei daro’n “ffyrnig.” 

Ond mae Maer Minneapolis, Jacob Frey wedi beirniadu’r asiant ICE am “ddefnyddio grym mewn modd ddi-hid,” gyda Llywodraethwr Talaith Minnesota, Tim Walz, hefyd yn gwrthod adroddiadau'r adran ffederal am y digwyddiad gan gyfeirio at “beiriant propaganda.”

Mae protestiadau pellach wedi eu cynnal ar hyd a lled y wlad ar ôl i ddau o bobl eraill gael eu hanafu ar ôl cael eu saethu gan swyddogion ffederal America ym Mhortland, Oregan ddydd Iau. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.