Cau twnnel Conwy i gyfeiriad y gorllewin am 10 niwrnod

Twnnel Conwy

Bydd twnnel Conwy ar ffordd yr A55 yn Sir Conwy ar gau i gyfeiriad y gorllewin am 10 niwrnod.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y twnnel ar gau o ddydd Sadwrn tan 20 Ionawr er mwyn cwblhau "gwaith diogelwch ffyrdd hanfodol".

Bydd system wrthlif drwy'r twnnel tua'r dwyrain rhwng y dyddiadau hynny, ac mae disgwyl i'r twnnel ailagor yn llawn am 06.30 ar 20 Ionawr. 

Cafodd y twnnel ei gau am gyfnod ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn tân yno.

Mae’r gwaith yn cynnwys gosod goleuadau LED a rhwystrau diogelwch newydd. 

Bydd timau'r gwasanaethau brys hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi yn y twnnel tra bod y ffordd ar gau.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, bod y gwaith yn "hanfodol".

"Mae'r gwaith diogelwch hwn yn hanfodol i sicrhau y gall y twnnel barhau i gael ei ddefnyddio yn y dyfodol," meddai. 

"Mae'r ymarferion hyfforddi hefyd yn allweddol i sicrhau bod gan wasanaethau brys yr adnabyddiaeth a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i ymateb rhag ofn y bydd argyfwng yn y twnnel. 

"Rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw hyn pan welsom pa mor dda yr ymatebodd y gwasanaethau brys i'r tân yn y twnnel y llynedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.