Sut mae gyrru'n ddiogel mewn rhew ac eira?

Gyrru yn y gaeaf / Raymond Williams

Gyda mwyafrif Cymru wedi profi eira a rhew dros yr wythnos ddiwethaf, mae cyn-ringyll gydag Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn rhannu ei gyngor gyda Newyddion S4C ynghylch gyrru mewn amodau rhewllyd ac eira. 

Mae rhybudd melyn am eira yn parhau mewn grym tan 12:00 ddydd Sadwrn, ac yn effeithio ar bob ardal o Gymru heblaw am y mannau arfordirol. 

Mae Raymond Williams o'r Groeslon ger Caernarfon, Gwynedd bellach yn gweithio i gwmni cyfreithiol sy'n delio â gwrthdrawiadau ffyrdd yn ogystal â'n hyfforddwr gyrru rhan-amser. 

"Y cwestiwn cynta' ydi 'Oes rhaid mynd o gwbl?'. Os does na ddim angen y siwrna, peidio ei gwneud hi," meddai Mr Williams wrth Newyddion S4C. 

"'Dan ni wedi arfer dreifio mewn glaw a mewn haul, felly pan 'dan ni'n cael eira yng Nghymru, dydi o ddim yn digwydd mor aml â hynny felly mae o'n rwbath sydd allan o'n comfort zone ni."

'Sbïo lle 'dach chi'n mynd'

Un o'r pethau pwysicaf i'w wneud yn ôl Mr Williams ydi cynllunio taith o flaen llaw. 

"Y tip cyntaf fysa gen i ydi cynllunio'r siwrna lle 'dach chi'n mynd. Ma' 'na gymaint o bobl heddiw jyst yn dibynnu ar eu ffonau symudol a Google Maps, ma' hwnna'n handi pan ma' 'na betha' 'di digwydd ar y route ond ma'n bwysig sbïo lle 'dach chi'n mynd hefyd," meddai. 

"O Gaergybi i Gaerdydd er enghraifft, ella bod trafeilio ar hyd Ynys Môn yn champion ond 'dach chi isio gw'bod sut mae o'n mynd i fod ochra Llandrindod so cynllunio'r siwrna i gychwyn. 

Ychwanegodd Mr Williams: "Paratoi rhag ofn i chi beidio gallu mynd yn bellach, bo' genna chi ddillad cynnes a gobeithio blanced, a 'dan ni'n cynghori bod rywun yn cario rhaw yn boot rhag ofn bo' rhywun yn gallu eich tyllu chi allan os yda chi'n endio fyny mewn eira annisgwyl."

"Y rheswm ma' pobl yn cael eu hunain i drafferth wedyn pan ma' nhw wedi cyrraedd y briffordd, ella bo' nhw'n gyfforddus iawn yn y car, bo' 'na heated seats a steering wheel yn y car ond tu allan, pan 'da chi'n ystyried ryw dro 'dach chi mewn car, pedwar tamaid o rubbel sydd genna chi rhwng surface y lôn a chi'n isda yn y car felly pan ma' 'na eira neu rew, 'dach chi'n dibynnu ar y pedwar tamaid o rubber yna i gael y grip 'dach chi angen ar gyfer steerio, acceleratio a brêcio."

'Bob dim yn fwy esmwyth'

Mae angen sicrhau fod pobl hefyd yn ymwybodol o beryglon gyrru ar rew, er nad yw hynny o hyd yn hawdd i'w weld a sylwi arno yn ôl Mr Williams.

"Y tip mwya' fysa gen i yn enwedig efo rhew du ydi lle bynnag ma' genno chi gysgod ar y lôn, boed o o dan bont neu gysgod coeden, be' ma' hynny'n olygu ydi nad ydi'r haul wedi bod yn fan 'na eto i helpu ddadmer y rhew a'r eira felly hwnna 'di'r lle definitely i beidio brêcio," meddai. 

"'Dach chi isio g'neud bob dim yn fwy esmwyth na be' fasa rywun yn arfer neud o ddydd i ddydd."

Mae Mr Williams hefyd yn cynghori bod angen rhoi sylw manylach ar dechnegau brêcio pan yn gyrru mewn amodau rhewllyd neu mewn eira.

"Dudwch bo' chi'n mynd ar lôn syth, y peth pwysica' ydi cadw'r pellter oddi wrth y car sydd o'ch blaen chi. Ma' pawb wedi clywed am y 2-second gap, ma' nhw'n awgrymu mewn glaw bo' chi'n dwblu hwnnw i bedwar, ond mewn rhew ag eira, ma' nhw'n awgrymu bod o'n 10 eiliad o gap.

"Ma' 'na dri math o skid os 'da chi'n brêcio... yr un lle 'dach chi'n mynd yn syth ymlaen felly ma' angen mynd off y brêc ac yn ôl ymlaen eto yn araf ac esmwyth.

"Yr ail, os yda chi'n steerio i'r dde er enghraifft a bod y car ddim yn mynd, yna ma' angen ei neud o mewn segments bach.

"Ag yn olaf, os ydi cefn y car yn mynd allan, steerio i gyfeiriad ma'r cefn yn mynd a neud hynny mor esmwyth â phosib."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.