Pilsen atal cenhedlu i ddynion gam yn agosach at gael ei dreialu

Dim Sbin 10/06/2022

Pilsen atal cenhedlu i ddynion gam yn agosach at gael ei dreialu

Mae gwyddonwyr wedi cyhoeddi bod pilsen atal cenhedlu ar gyfer dynion gam yn agosach at gael ei dreialu. 

Yn aml, mae menywod yn profi sgil-effeithiau defnyddio pilsen atal cenhedlu, fel iselder, clotiau gwaed, neu hyd yn oed strôc, felly mae nifer wedi croesawu’r cyhoeddiad bod posibilrwydd i ddynion gymryd y bilsen yn lle.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth ymchwil newydd ddangos bod llwyddiant o 99% ar atal beichiogrwydd mewn llygod, heb sgîl-effeithiau amlwg. 

Fel rhan o ymchwil aeth Hansh Dim Sbin i gael barn y cyhoedd. Dywedodd Tamsin o Abertawe bod hi’n meddwl bod e’n beth da: 

“Pam dyle jyst menywod cael e?

“Mae rhai menywod yn cael sgîl-effeithiau rilli gwael. Dwi’n gwybod mae rhai o ffrindiau fi yn cael trafferthion arno fe, felly os mae dynion yn gallu cymryd e heb sgîl-effeithiau dwi’n credu mae hynny’n wych.”

Mae’r bobl tu ôl i’r ymchwil a chreu’r bilsen i ddynion wedi datgelu eu bod yn ceisio datblygu dull atal cenhedlu heb hormonau er mwyn osgoi sgîl-effeithiau. 

Mae rhai pobl fel Carys o Abertawe yn grac gyda’r syniad na fydd unrhyw sgîl-effeithiau gyda’r bilsen i ddynion.

"Mae cymaint o sgîl-effeithiau i fenywod sy'n cymryd y bilsen atal cenhedlu, rwy'n meddwl pe bai'r un sgîl-effeithiau i ddynion byddwn yn bryderus, ond pe bai bilsen heb sgîl-effeithiau i ddynion byddwn yn eu hannog i'w gymryd yn lle.

“Y rheswm nad yw hyn wedi cael ei drafod eisoes, a'r rheswm y disgwylir i fenywod gymryd rheolaeth o atal cenhedlu yw oherwydd rhywiaeth mewn cymdeithas.”

Dywedodd Owain Lewis Williams, meddyg dan hyfforddiant o Brifysgol Caerdydd, bod “dibyniaeth cymdeithas ar ferched ar gyfer atgenhedlu a ddim dynion.”

Image
S4C
Mae Owain Lewis Williams yn feddyg dan hyfforddiant

Mae’r meddyg sydd wedi gweithio mewn amrywiaeth o feysydd iechyd rhywiol yn credu bod angen fwy o addysg ar y pwnc er mwyn i ddynion gymryd atal cenhedlu o ddifri.

“Yr unig beth faswn yn poeni am os bysa yna bilsen atal cenhedlu i ddynion - yw bydd dynion ddim yn gorfod gwisgo condoms yn yr un ffordd, ac wedyn basa STDs yn mynd fyny - felly o bosib mae hynna jyst yn ffactor arall, bysa angen addysgu pwysigrwydd condoms.”

Dywedodd y Gwasanaeth Iechyd: “Mae ymchwilwyr yn obeithiol y bydd dull diogel, effeithiol a gwrthdroadwy o atal cenhedlu gwrywaidd yn dod yn realiti yn y pen draw, er bod hyn yn dal i fod sawl blwyddyn i ffwrdd.”

Ewch i gyfrif Hansh Dim Sbin am fwy. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.