Cyn-gyfarwyddwr Express Motors yn ôl yn gweithio i gwmni bysiau
Mae cyn-gyfarwyddwr, a gafodd ei garcharu am ei ran mewn twyll tocynnau bws ffug gwerth £800,000, yn ôl yn gweithio yn y sector trafnidiaeth.
Mae cyn-reolwr trafnidiaeth Express Motors yng Ngwynedd, Kevin Wyn Jones, wedi cael ei gyflogi gan gwmni Llew Jones Coaches Limited yn Llanrwst.
Roedd Jones yn un o bump gafodd eu carcharu yn 2018 am dwyll yn ymwneud â channoedd o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus yn cael ei hawlio am deithiau bws na ddigwyddodd.
Cafodd perchennog Express Motors, Eric Wyn Jones, Kevin a'i frodyr Ian Wyn Jones a Keith Jones i gyd eu carcharu am dwyll drwy gynrychiolaeth ffug.
Darllenwch y stori'n llawn yma.