£100 i lenwi tanc o betrol: Pam fod prisiau mor ddrud?

Wedi i bris llenwi tanc o betrol gyrraedd y garreg filltir o £100 ar gyfartaledd ddydd Iau, mae Sky News wedi bod yn edrych ar y rhesymau am y cynnydd sylweddol dros y misoedd diwethaf.
Bydd 90 ceiniog o litr o betrol gwerth £2 yn mynd i dalu treth tanwydd, sydd yn ei dro wedi cyfrannu at y twf mewn chwyddiant.
Erbyn hyn mae chwyddiant yn golygu fod pris disel 38% yn ddrytach nag yr oedd flwyddyn yn ôl.
Ac mae'r cynnydd yn rhannol wedi dod o ganlyniad i'r rhyfel yn Wcráin a sancsiynau'r Gorllewin yn erbyn Rwsia - sef yr ail gynhyrchydd mwyaf o olew yn y byd.
O ganlyniad i'r gwrthdaro, mae disgwyl y bydd tair miliwn yn llai o fareli o olew yn ddyddiol ar gael ar y farchnad olew fyd-eang erbyn diwedd y flwyddyn.
Canlyniad hyn yw cynnydd yn y pwmpiau petrol, a chynnydd mewn prisiau bwyd wrth i gwmnïau cludiant geisio casglu rhywfaint o'u colledion yn ôl ar ôl gweld cynnydd sylweddol mewn biliau tanwydd.
Mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn galw hefyd ers i gyfyngiadau Covid ar deithio gael eu codi'n llawn - ac o ganlyniad yr holl ffactorau hyn mae prisiau petrol a disel ar eu huchaf erioed.
Darllenwch ragor yma.