Cymru'n colli o 1-2 yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd
Mae Cymru wedi colli yn erbyn Yr Iseldiroedd yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd brynhawn nos Fercher, a hynny o 1-2.
Yn dilyn buddugoliaeth carfan Rob Page nos Sul yn rownd terfynol gemau ail-gyfle y Cwpan y Byd roedd y gêm hon yn gyfle i chwaraewyr ifanc Cymru.
Roedd y cyfleoedd i ennill pwyntiau yn brin i’r ddau dîm yn ystod y hanner cyntaf.
Ond fe ddaeth y gêm yn fyw rhyw 10 munud i mewn i’r ail hanner wrth i Teun Koopmeiners roi Yr Iseldiroedd ar y blaen gydag ergyd i ochr y rhwyd.
Golygodd gôl ryngwladol gyntaf Rhys Norrington-Davies sgôr gyfartal o 1-1 wedi 90 munud o chwarae.
Ond sgoriodd Wout Weghorts y gôl fuddugol i'r Iseldiroedd eiliadau yn unig ar ôl i Norrington Davies unioni’r sgôr i Gymru.
Dyma’r tro cyntaf i dîm Cymru golli adref mewn 20 gêm.
Llun: Huw Evans