Cân 'Yma o hyd' gan Dafydd Iwan ar frig siart iTunes
Cân 'Yma o hyd' gan Dafydd Iwan ar frig siart iTunes
Mae anthem answyddogol cefnogwyr pêl-droed Cymru, sef 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan wedi cyrraedd y brig yn siart iTunes brynhawn dydd Mercher.
Cafodd y gân ei chanu ddwywaith yn Stadiwm Dinas Caerdydd gan yr artist eiconig brynhawn dydd Sul - unwaith cyn herio Wcráin, ac yna eto ar ôl y chwiban olaf wedi i Gymru sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dafydd Iwan bod y gân wedi dod yn “symbol o ysbryd y gêm erbyn hyn.
“Ac mae o yn wych o beth. Nid oherwydd mai fi sydd wedi ei sgwennu a’i chanu hi, ond gan fod ‘na gân Gymraeg yn cael ei pherchnogi gan dîm cenedlaethol pêl droed Cymru,” ychwanegodd.
‘Deall arwyddocâd y geiriau’
Ysgrifennodd Dafydd Iwan y gân yn dilyn cyfnod cythryblus yn wleidyddol i Gymru yn yr 1980au, ac mae’r geiriau yn cydio yn y syniad bod modd ‘goroesi er gwaethaf pawb a phopeth’.
Yn ôl Dafydd Iwan, mae’r tîm a’r cefnogwyr wedi dod i ddeall arwyddocâd y geiriau'n llawn erbyn hyn.
“I rywbeth fod yn anthem mae rhaid cael sawl elfen, ac mae’n ffitio felly de."
Dywedodd hefyd fod y perfformiad yn rhan o’r broses o “wneud y Gymraeg yn rhan o fywyd Cymru yn yr ystyr llawnaf posib.
“Mae ‘na rwbath sydd yn y gân sydd yn taro deuddeg gyda phobl sydd ddim yn deall y geiriau a dwi ddim yn siŵr iawn sut ma’ hynny yn gweithio,” meddai.