Dros 700 o bobl wedi'u saethu'n farw yn America ers ymosodiad Texas

Mae dros 700 o bobl wedi cael eu saethu'n farw yn yr UDA yn y pythefnos ers i ddyn ymosod ar ysgol gynradd yn Texas.
Bu farw dau athro ac 19 o blant pan ymosododd dyn 18 oed ar Ysgol Gynradd Robb yn ninas Uvalde.
Mae'r digwyddiad wedi sbarduno’r ddadl yn yr UDA dros hawliau gynnau, gan arwain at nifer o bobl yn galw am gyfyngiadau llymach ar brynu arfau, gan gynnwys yr Arlywydd Joe Biden.
Yn ystod y cyfnod ers yr ymosodiad yn Uvalde, bu marwolaeth yn gysylltiedig â gynnau yn 43 allan o 50 talaith yn y wlad.
Bu farw 730 o bobl ers 24 Mai, gan gynnwys 23 o blant a 66 o bobl yn eu harddegau.
Darllenwch fwy yma.