Cyflwyno mesurau ymyrraeth ar gyfer gwasanaethau Ysbyty Glan Clwyd
Mae mesurau ymyrraeth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Daw'r cyhoeddiad mewn datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddydd Mawrth.
Mae'r bwrdd iechyd wedi ei feirniadu yn dilyn pryderon am nifer o feysydd, gan gynnwys gwasanaethau fasgwlar.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud fod cadw cleifion yn ddiogel a darparu "gofal o safon uchel" yn parhau'n flaenoriaeth.
Bydd y mesurau yn cynnwys monitro gwasanaethau fasgwlar, symud arweinwyr clinigol cenedlaethol i Adran Frys Ysbyty Glan Clwyd a chomisiynu asesiad annibynnol o'r cynnydd ers adolygiadau iechyd meddwl diweddar.
Fe fydd cyfarfod arall i drafod y mater yn cael ei gynnal erbyn mis Hydref.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: “Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac amlwg am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu a’r cynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd a’r adran frys.
“Hoffwn sicrhau’r cleifion a’r cymunedau y mae’r bwrdd iechyd yn eu gwasanaethau a’r staff sy’n gweithio ynddo, na fydd gwasanaethau o ddydd i ddydd yn cael eu heffeithio mewn modd negyddol. Fodd bynnag, bydd y bwrdd yn ystyried meysydd sylweddol o bryder.
“Gan ystyried natur ddifrifol ac eithriadol yr uwchgyfeirio hwn, caiff y trefniadau hyn eu monitro’n agos a’u hadolygu’n gynnar i sicrhau cynnydd.”
Dywedodd Balasundaram Ramesh, Cyfarwyddwr Meddygol yn Ysbyty Glan Clwyd: "Mae gennym staff cwbl ymroddedig yn Ysbyty Glan Clwyd sydd wedi gweithio'n ddiflino trwy gydol y pandemig, mewn amgylchiadau hynod anodd.
"Nid yw'r penderfyniad hwn yn feirniadaeth ohonynt hwy ac rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar am eu hymdrechion cyson.
"Rwyf i hefyd yn byw'n lleol gyda'm teulu ym Mae Colwyn ac rwy'n benderfynol, ynghyd â'm cydweithwyr, o barhau i wneud y gwelliannau i'n gwasanaethau y mae pobl leol yn eu haeddu."