Awduron ifanc Cymru yn rhoi llwyfan i nodi mis Pride
Awduron ifanc Cymru yn rhoi llwyfan i nodi mis Pride
Mae pedwar awdur ifanc wedi cael y cyfle i ysgrifennu monolog yr un er mwyn rhoi llwyfan i nodi mis Pride.
Wedi eu cyhoeddi gan Rownd a Rownd mewn cydweithrediad efo'r Eisteddfod Genedlaethol a Mas ar y Maes, mae'r bedair monolog yn ddathliad o staeon pobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru.
Leo Drayton, 21 oed o Gaerdydd, Lowri Morgan, 24 oed o Gaernarfon, Niall Grant-Rowlands, 21 oed o Fangor, a Laurie Elen Thomas, 19 oed o Gaerfyrddin ydy'r pedwar awdur.
Roedd yn rhaid i'r pedwar ysgrifennu monolog a oedd yn adlewyrchu profiadau bywyd person ifanc LHDTC+ yn byw yng Nghymru.
Fe wnaeth Leo Drayton ysgrifennu a pherfformio'r fonolog, ac mae wedi ei seilio ar ei brofiad ei hun fel person traws.
"Ma jest yn sôn am profiade o bod yn traws yn person ifanc yn delio hefo trio ffeindio mas pwy wyt ti a'r straen a pethe sydd ddim yn neis iawn am fod yn traws ond mewn ffordd fwy positif."
Pwysleisiodd Leo bwysigrwydd cyhoeddi gwaith yn ymwneud a'r gymuned LHDTC+ er mwyn codi ymwybyddiaeth a chynhyrchu cynnwys y gall pobl uniaethu ag ef.
"O'n i jest yn teimlo fel bod y straeon yma heb cael eu darlledu neu heb cael eu clywed a dylen nhw fod achos ma' nhw'n pethe 'o'n i'n gallu uniaethu 'da a 'nes i ddim gweld pan 'o'n i'n tyfu fyny.
"Os byswn i 'di gallu gweld rhywbeth fel hwn, 'falle byswn i wedi teimlo llai unig."
Ar ôl ysgrifennu'r monologau, fe gafodd y pedwar gyfle i gynhyrchu eu gwaith yn stiwdio Rownd a Rownd yn Llangefni lle cafodd y monologau eu ffilmio.
Dywedodd Golygydd Cynnwys Digidol Rownd a Rownd, Ciron Gruffydd: “Wrth i ni ehangu ein darpariaeth ddigidol, a chynnig cyfleoedd i bobl sydd â phrofiadau bywyd amrywiol, gallwn greu cynnwys gwreiddiol, arbennig sydd wir yn adlewyrchu Cymru gyfoes a’r cyfoeth o straeon sydd allan yno’n barod i gael eu hadrodd.”