Newyddion S4C

Cymro wedi'i garcharu am wyth mlynedd a hanner am fod yn rhan o grŵp neo-Natsiaidd 

Sky News 07/06/2022
Alex Davies

Mae Cymro wedi'i garcharu am wyth mlynedd a hanner am fod yn rhan o grŵp neo-Natsiaidd oedd wedi'i wahardd. 

Fe wnaeth Alex Davies, 27 o Abertawe, sefydlu National Action yn 2013. 

Roedd National Action yn adnabyddus am ei ymddygiad treisgar gan drefnu protestiadau yn dathlu llofruddiaeth yr Aelod Seneddol Jo Cox ac yn saliwtio Adolf Hitler. 

Clywodd Llys y Goron Caerwynt bod y grŵp hefyd yn gwneud trefniadau para filwrol, gan hyfforddi aelodau i ddefnyddio arfau. 

Cafodd Davies ei ddyfarnu'n euog o droseddau terfysgaeth ym mis Mai wedi iddo barhau i gwrdd â neo-Natsiaid eraill er i National Action gael ei wahardd yn 2016. 

Davies yw'r olaf o'r 25 aelod o National Action i gael eu carcharu a chafodd ei ddisgrifio fel "eithafwr yr eithafwyr" gan yr erlyniad yn Llys y Goron Caerwynt.

Darllenwch y stori'n llawn yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.