'Mwy o serch': Chalet newydd ar gyfer ail gyfres Amour a Mynydd
Eleni, fe fydd cystadleuwyr cyfres Amour a Mynydd yn treulio eu hamser mewn chalet newydd yn yr Alpau.
Mae'r gyfres yn dychwelyd am yr eildro ac fe fydd yn cael ei ddarlledu ar S4C ar 10 Chwefror.
Bydd y cystadleuwyr yn treulio eu hamser mewn chalet moethus newydd, sydd yn cynnwys pwll nofio dan do sydd gyda siglen uwchben y dŵr, sawna, ardal ymlacio, campfa, ystafell chwaraeon, llefydd tân clud, bar, ystafell ddirgel a llithren sy’n cysylltu’r lloriau.
Credai Meilir Rhys Williams, sydd yn cyd-gyflwyno fodcast Après: Amour & Mynydd fod y chalet newydd yn destun i "lwyddiant" y gyfres gyntaf.
“Mae ‘na elfen fwy cystadleuol i’r gyfres yma a dwi’n meddwl bod hi’n ddatblygiad llwyddiannus iawn o gyfres un, yn y ffaith bod bob dim yn fwy," meddai.
"Mae’r chalet yn fwy, mae’r cast yn fwy, ac mae’r cynnwys yn mynd i fod yn fwy amrywiol o ran drama, serch, a lleoliad newydd. Felly mae o i gyd yn ffresh, ond yn cadw naws y gyfres gynta’.”
Fe fydd y cystadleuwyr yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul, sef Diwrnod Santes Dwynwen.
Dros gyfnod o 12 diwrnod bydd yr unigolion yn byw yn y chalet yn yr Alpau Ffrengig.
Mae cyflwynydd y rhaglen, Elin Fflur, yn dweud y bydd cyfres eleni yn un "gyffrous."
“Mae’r gyfres yma’n brysur, yn symud yn gyflym, yn gyffrous," meddai.
Mae ‘na twists bach difyr yn digwydd. Mae’r castio’n wych – mae’r criw wir wedi prynu fewn i’r syniad o pam oedden nhw yna, a maen nhw’n creu adloniant arbennig iawn.”