Dyn yn yr ysbyty wedi iddo gael ei drywanu ym Mae Caerdydd

Mae dyn wedi'i gludo i'r ysbyty wedi iddo gael ei drywanu ym Mae Caerdydd yn oriau man fore Llun.
Cafodd y dyn 26 oed o Gasnewydd ei anafu yn dilyn ffrae rhwng grŵp o ddynion ifanc.
Mae dyn 22 oed o ardal Gabalfa wedi'i arestio yn sgil yr ymosodiad ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.
Yn ôl yr heddlu, roedd y ffrae yn gysylltiedig gyda gwrthdrawiad rhwng BMW a Volkswagen Golf ger adeilad y Senedd.
Mae'r heddlu wedi apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw yn syth.
Darllenwch fwy yma.