Newyddion S4C

Pryderon am hawliau dynol yn Qatar ar drothwy Cwpan y Byd

ITV Cymru 06/06/2022
Qatar

Yn dilyn llwyddiant pêl-droedwyr Cymru yn cyrraedd Cwpan y Byd, mae yna bryderon am y sefyllfa hawliau dynol yn Qatar. 

Cafodd y wlad ei dewis i gynnal Cwpan y Byd 2022 nôl yn 2010. Ac mae hynny wedi achosi dadleuon. 

Mae yna adroddiadau bod gweithwyr o dramor wedi cael eu trin yn wael, wrth iddyn nhw adeiladu’r saith stadiwm ar gyfer y bencampwriaeth.

Hefyd, mae hawliau menywod yn Qatar yn bwnc llosg, yn ogystal ȃ’r ffaith ei bod hi’n drosedd i fod yn hoyw yno. 

Mae ymgyrchwyr yn dweud nad oes modd anwybyddu’r problemau hynny wrth i'r bencampwriaeth agoshau. 

Yn ȏl Felix Jakens o Amnesti Rhyngwladol, “dros y 12 mlynedd ddiwethaf, mae cannoedd ar filoedd o weithwyr o dramor yn Qatar wedi wynebu anghyfiawnderau yn erbyn hawliau dynol.”

“Mae yna lawer o ormes yno i bobl LHDT+ ac mae hawliau menywod yn y deyrnas hefyd yn gyfyngedig iawn.”

“Dylai unrhyw un sy’n mynd i Qatar fod yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa hawliau dynol yno a bod yn barod i siarad yn gyhoeddus am y peth.”

Mae rhai gwleidyddion wedi ceisio pwysleisio’r broblem yn y Senedd, gan ddweud nad cyfrifoldeb y chwaraewyr a’r cefnogwyr yn unig yw codi’r mater. 

Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds AS, yn dweud fod gan Lywodraeth Cymru - sydd ȃ swyddfa fasnach yn Qatar - gyfrifoldeb yn y maes hwn. 

“Rydym ni eisiau i Lywodraeth Cymru ddangos y ffordd ac i ddweud, ‘mae gennym bryderon ac rydym ni’n cau’r swyddfa oherwydd y pryderon hynny,’”

Fodd bynnag, mae Alun Cairns AS yn credu nad boicotio yw’r ffordd i ddatrys y broblem.

“Does dim amheuaeth bod Cwpan y Byd yn tanlinellu bod yna gymaint o ymagweddau ceidwadol tuag at ffordd y gorllewin o fyw, ac rwy’n credu bod hynny’n beth da. Ond mae angen inni fod yn gynghreiriaid,” meddai. 

“Mae angen inni fod yn gyfeillion sy’n beirniadu a gwthio i’r cyfeiriad cywir i sicrhau bod hawliau’n cael eu parchu.” 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “rydym wedi ymrwymo’n llwyr i hybu hawliau dynol, ac rydym yn credu y dylid ymgysylltu ȃ gwledydd sydd ddim yn rhannu ein gwerthoedd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.