'Amser symud ymlaen' wedi i Boris Johnson ennill pleidlais o ddiffyg hyder
Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn "amser symud ymlaen" wedi iddo ennill pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth nos Lun.
Fe bleidleisiodd 211 o Aelodau Seneddol o blaid y Prif Weinidog, gyda 148 yn gwrthwynebu, gan olygu bod ganddo fwyafrif o 63.
Mae'r canlyniad yn un gwaeth na chanlyniad y bleidlais o ddiffyg hyder a ddigwyddodd pan oedd Theresa May yn Brif Weinidog yn 2019.
Er hyn, dywedodd Mr Johnson fod y canlyniad yn un "pendant" ac yn rhoi cyfle i'r llywodraeth i symud ymlaen er mwyn "ffocysu ar y pethau sydd wir yn poeni pobl."
"Mae nawr gen i fandad mwy gan fy nghyd-weithwyr Seneddol i gymharu â 2019."
"Dwi'n gwerthfawrogi fy nghyd-weithwyr a'r gefnogaeth maen nhw wedi rhoi i mi.
"Yr hyn rydyn ni angen gwneud nawr yw dod at ein gilydd fel llywodraeth, fel plaid, ac mae hyn nawr yn rhoi cyfle i roi popeth tu ôl i ni."
Cafodd y bleidlais ei chynnal yn San Steffan ymhlith Aelodau Seneddol Ceidwadol rhwng 18:00 ac 20:00.
Roedd angen i 180 o ASau Ceidwadol bleidleisio o blaid y Prif Weinidog er mwyn ei gefnogi i aros yn ei swydd.
Roedd nifer o ASau Ceidwadol wedi beirniadu’r Prif Weinidog gan alw’n gyhoeddus arno i gamu o’r neilltu, gan gynnwys y cyn-ysgrifennydd iechyd Jeremy Hunt.
Fe ddaeth y bleidlais wedi i adroddiad y gwas sifil blaenllaw Sue Gray i bartïon yn Downing Street gael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi derbyn dirwy gan Heddlu’r Met am fynychu digwyddiad ar ei ben-blwydd ym mis Mehefin 2020 – pan nad oedd hynny’n cael ei ganiatáu.
Yn ôl Llywodraeth y DU, byddai Boris Johnson wedi parhau i arwain y blaid, hyd yn oed pe bai wedi ennill y bleidlais gyda mwyafrif o un.
Llun: Rhif 10