Gorfoledd i Gymru – dyma rai o’r lluniau mwyaf trawiadol wrth i Gymru guro Wcráin a sicrhau lle yng Nghwpan pêl-droed y Byd 2022.
Y wal goch yn gefn i garfan Rob Page - Gorau Chwarae Cyd Chwarae.
Dafydd Iwan yn canu Yma o Hyd, anthem answyddogol pêl-droed Cymru cyn y gêm.
Ergyd Gareth Bale wedi'i gwyro oddi ar Andriy Yarmolenko, chwaraewr Wcráin yn sicrhau buddugoliaeth.
Y torcalon a'r gorfoledd. Roedd Wcráin un gêm yn unig i ffwrdd o gymhwyso ar gyfer eu hail Gwpan y Byd.
Y sgôr terfynol yn golygu bod Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd.
Bydd Cymru yn wynebu UDA, Iran a Lloegr sydd hefyd yn Grŵp B yng Nghwpan y Byd ym mis Tachwedd.
Lluniau: Asiantaeth Huw Evans