Tîm Cymru yn oedi eu dathliadau i roi teyrnged i gefnogwyr Wcráin

Yn dilyn buddugoliaeth hanesyddol tîm pêl-droed Cymru nos Sul, fe roddodd chwaraewyr a chefnogwyr Cymru deyrnged i gefnogwyr Wcráin yn y dorf, cyn dechrau'r dathlu.
Yn sgil gwyriad o gic rydd Gareth Bale, llwyddodd carfan Rob Page i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd.
Mae’n golygu y bydd Cymru’n chwarae ar lwyfan mwyaf pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958.
Ond cafodd y dathliadau eu dal yn ôl yn fuan wedi’r chwiban olaf, er mwyn rhoi teyrnged i gefnogwyr a thîm Wcráin.
Mae'r rhyfel yn Wcráin yn parhau yn dilyn ymosodiad Rwsia ym mis Chwefror.
Mae carfan Wcráin a’r cefnogwyr wedi canmol cefnogwyr Cymru ar tîm am ddangos eu cefnogaeth i’r wlad.
Darllenwch y stori yn llawn yma.