Newyddion S4C

Dyfodol Boris Johnson: Beth yw barn ASau Ceidwadol Cymreig?

06/06/2022
Ty'r Cyffredin

Mae'r Prif Weinidog Boris Johnson yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder nos Lun.

Fe gyhoeddodd Cadeirydd Pwyllgor 1922 - y pwyllgor o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr - Syr Graham Brady, fore dydd Llun y byddai pleidlais rhwng 18:00 ac 20:00.

Pleidlais gudd fydd yn wynebu Aelodau Seneddol Ceidwadol nos Lun, ond mae rhai ASau Ceidwadol Cymreig eisoes wedi datgan eu barn.

Roedd angen 54 o lythyron i gael eu cyflwyno er mwyn cynnal y bleidlais, ond fe fydd angen 180 o ASau ei blaid ei hun i bleidleisio yn ei erbyn er mwyn cynnal pleidlais am arweinydd newydd.

Sarah Atherton, Wrecsam -  Cefnogi'r Prif Weinidog  

Aelod Seneddol Wrecsam, Sarah Atherton yw'r ddiweddaraf i gyhoeddi ei bod yn cefnogi Boris Johnson, a'r chweched AS i ddatgan cefnogaeth iddo.  

Simon Baynes, De Clwyd - Cefnogi'r Prif Weinidog

Mae Simon Baynes sydd wedi cynrychioli De Clwyd ers 2019 wedi dweud y bydd yn cefnogi Boris Johnson yn y bleidlais, gan ddweud ei fod yn "iawn" ar y "penderfyniadau mawr".

Alun Cairns, Bro Morgannwg - Cefnogi'r Prif Weinidog

Mae Alun Cairns wedi cynrychioli Bro Morgannwg ers 2010 ac roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 2016 a 2019.  Mae Mr Cairns hefyd yn cefnogi Boris Johnson, gan gyfeirio at y cynllun ffyrlo a'r lefelau diweithdra. 

David TC Davies, Mynwy - Cefnogi'r Prif Weinidog

Mae David TC Davies wedi bod yn Weinidog yn Swyddfa Cymru ers 2019, ac wedi cynrychioli etholaeth Mynwy ers 2005.  Mae'n dweud y bydd yn cefnogi'r Prif Weinidog yn y bleidlais gan ddweud ei fod yn "benderfynol" i achub bywydau yn ystod y pandemig.

Simon Hart, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro  - Cefnogi'r Prif Weinidog

Simon Hart yw Ysgrifennydd Cymru ac mae'n aelod o'r cabinet ers 2019.  Dywed Simon Hart y bydd yn cefnogi'r Prif Weinidog gan ddweud fod angen cefnogi arweinydd y tîm "mewn amseroedd da a drwg".

Craig Williams, Sir Drefaldwyn - Cefnogi'r Prif Weinidog

Mae Craig Williams wedi bod yn AS ar etholaeth Sir Drefaldwyn ers 2019.  Dywedodd Mr Williams brynhawn dydd Llun y bydd yn cefnogi'r Prif Weinidog wedi iddo wrando ar yr hyn oedd ganddo i'w ddweud wrth aelodau'r meinciau cefn mewn cyfarfod yn gynharach.

Fe fydd y diweddaraf ar wasanaeth Newyddion S4C drwy gydol y dydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.