Dau o Gymru yn gystadleuwyr ar Love Island eleni
Mae dau o Gymru yn chwilio am gariad yr haf hwn yn fila Love Island.
Bydd y gyfres realiti boblogaidd yn dychwelyd i’r sgrîn fach am yr wythfed gyfres ar ITV nos Lun.
Ymysg y cystadleuwyr mae'r Gymraes, Paige Thorne a’r Cymro Liam Llewellyn.
Mae Paige, 24 oed yn barafeddyg o Abertawe.
Yn ôl Paige, mae wedi bod yn anodd ffeindio rhywun delfrydol yn Abertawe ac felly mae am "ehangu ei gorwelion" wrth ymuno a'r rhaglen.
Ychwanegodd y bydd hi’n “dod ag egni positif a byrlymus” i’r fila eleni.
Yn wreiddiol o Gasnewydd mae Liam, 22 oed yn edrych ymlaen at gyfarfod “rhywun newydd” ar Love Island.
Dywedodd y Myfyriwr ôl-radd: “Rwy'n meddwl bod 22 yn oedran neis iawn i gwrdd â rhywun. Rydych chi yno gyda llwyth o wahanol fathau o bobl.”
Bydd Paige a Liam yn dilyn trywydd nifer o Gymry eraill sydd wedi bod yn ffigyrau poblogaidd ar y rhaglen realiti gan gynnwys enillydd y gyfres yn 2017, Amber Davies, Dr Alex George yn 2018 ac enillydd y gyfres y llynedd, Liam Reardon.