Newyddion S4C

Cymru'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol i gyrraedd Qatar

06/06/2022

Cymru'n dathlu buddugoliaeth hanesyddol i gyrraedd Qatar

Mae Cymru wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 64 mlynedd ar ôl curo Wcráin yn rownd derfynol y gemau ail-gyfle nos Sul.

Fe gurodd Cymru 1-0 yng Nghaerdydd ar ôl i gic rydd y capten Gareth Bale gael ei gwyro i'r gôl gan gapten Wcráin, Andriy Yarmolenko.

Bydd Cymru yn wynebu UDA, Iran a Lloegr sydd hefyd yn Grŵp B yng Nghwpan y Byd ym mis Tachwedd.

Dywedodd Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, bod cyrraedd Cwpan y Byd yn "gyfle i werthu Cymru ar y map mwyaf, y cyfle mwyaf nawn nhw gael oherwydd natur pêl-droed.

"Mae o hefyd yn gyfle i ni ddangos unwaith eto ar lwyfan ehangach na 2016, 2021 yn yr Ewros, ar lefel Cwpan y Byd bod gennym ni iaith a diwylliant a thraddodiadau ein hunain felly bod ni o leiaf pan mae'n dod i bêl-droed yn wlad annibynnol."

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r actor Michael Sheen, ymhlith yr enwogion a chefnogwyr o bedwar ban byd i longyfarch y tîm.

Mae’n anhygoel beth allwn gyflawni pan mae’r wlad i gyd yn dod at ei gilydd!” meddai Mr Drakeford.

Fe wnaeth y seren Hollywood a chydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam, Rob McElhenney hefyd longyfarch tîm Rob Page. 

Mewn neges ddireidus arall ar Twitter, ychwanegodd Mr McElhenney bod ganddo “ychydig o syniadau” am ble y gallai Gareth Bale chwarae'r tymor nesaf.

Dywedodd Iwan Rowlands, cefnogwr Cymru: “O ystyried yr amodau, y glaw, doedd hi ddim yn hawdd i unrhyw gôl geidwad heno, ond oedd Wayne Hennessey yn arbennig o dda."

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Cledwyn Ashford o Gymdeithas Pêl-droed Cymru: “Da ni’n mynd i Qatar! Bendigedig. Ddaru nhw chwarae mor dda. ‘Da ni yma o hyd!” 

Image
S4C
Dywedodd y chwaraewyr bod y wal goch wedi bod yn "arbennig".

Mewn cyfweliad â Sgorio ar ôl y gêm, diolchodd y chwaraewyr i’r wal goch am y gefnogaeth. 

Dywedodd Gareth Bale: “Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni ac i’w wneud o i’r cefnogwyr, y genedl, ein hunain ac ein teulu, mae'n rhywbeth balch iawn."

Ychwanegodd Joe Allen bod yr awyrgylch yn y stadiwm wedi bod yn “enfawr ac mae’n dangos beth mae’n ei olygu i bawb yng Nghymru."

Image
S4C

Cyn y gêm bu'r cefnogwyr yn mwynhau perfformiad o anthem answyddogol pêl-droed Cymru, Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.

Wrth ddathlu’r llwyddiant daeth Dafydd Iwan yn ôl ar y cau ar ddiwedd y gêm a chyd ganu'r gân gyda’r chwaraewyr. 

Roedd strydoedd Caerdydd yn goch nos Sul a'r dathlu’n parhau wedi’r gêm.   

Lluniau: Sgorio/FAW/Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.