Gobaith y bydd canolfan sgïo dan do hiraf y DU yn ‘newid dyfodol’ Merthyr Tudful

Cynlluniau llethr sgio ym Merthyr
Cynlluniau llethr sgio ym Merthyr

Mae cynghorwyr wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd canolfan sgïo dan do hiraf y DU yn “newid dyfodol” tref Merthyr Tudful.

Fe gafodd y cynlluniau ar gyfer y ganolfan sgïo ganiatâd ar ôl pleidlais unfrydol gan gynghorwyr ddydd Mercher.

Daw’r bleidlais wedi i Lywodraeth Cymru benderfynu peidio â galw’r ganolfan sgïo i mewn.

Y bwriad yw bod y datblygiad ar dir i'r de-orllewin o gylchfan yr A470/A4102 yn cynnwys llethr sgïo dan do o 400 metr, parc dŵr, canolfan weithgareddau dan do, a chanolfan gweithgareddau awyr agored.

Fe fydd yna hyd at 418 o ystafelloedd gwely mewn gwesty, hyd at 30 unedau llety mewn cabanau a hyd at 830 o leoedd parcio.

Mae’r datblygwyr, Marvel Limited, yn dweud y bydd yn creu 1,500 o swyddi wrth adeiladu a 800 o swyddi parhaol.

Mae bwriad hefyd iddo fod yn bencadlys hyfforddi swyddogol ar gyfer timau chwaraeon eira cenedlaethol, Olympaidd a Pharalympaidd Prydain Fawr a Chymru.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry mai eu blaenoriaeth gyntaf oedd gofalu am bobl yr ardal drwy gynnig atebion economaidd cadarnhaol.

"Mae gennym y cyfle i newid dyfodol economaidd-gymdeithasol Merthyr fan hyn,” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Brent Carter fod y prosiect yn "arloesol" ac yn "newid y gêm yn llwyr i Ferthyr Tudful."

Dywedodd fod y gefnogaeth iddo yn llethol a'i fod yn "gyffrous" am y prosiect.

Bydd yn "cefnogi ac yn rhoi hwb enfawr i'n heconomi ym Merthyr Tudful", a dywedodd ei fod yn gyfle delfrydol i gadarnhau Merthyr Tudful fel "cyrchfan o'r radd flaenaf".

Dywedodd: "Mae angen Gorllewin Rhydycar ar Ferthyr Tudful."

Roedd un e-bost yn codi gwrthwynebiad wedi dod i law, a oedd yn nodi bod yr ardal ymhlith y mwyaf bioamrywiol yn y DU.

Mae’r safle yn cynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cwmglo a Glyndyrus, Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur Gorllewin Rhyd-y-car, rhan o goetir hynafol a pheth coetir sy'n dod o dan orchymyn cadw coed (GCC).

Mae rhai Henebion Cofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II ar y safle, ac mae'r safle hefyd yn ffurfio rhan o Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Merthyr Tudful.

Mae rhwydwaith o ffyrdd a llwybrau cyhoeddus yn croesi drwy'r safle ac yn ymestyn i'r ardal gyfagos hefyd.

Mewn cyfarfod blaenorol ym mis Mawrth 2025, roedd swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod yr hawl i adeiladu.

Ond fe wnaeth cynghorwyr bleidleisio o blaid y cais cynllunio, yn groes i argymhellion y swyddogion, bryd hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.