Gwobr farddonol Brydeinig bwysig i Menna Elfyn
Gwobr farddonol Brydeinig bwysig i Menna Elfyn
Mae cyn-Fardd Plant Cymru wedi derbyn un o brif wobrau Cymdeithas yr Awduron am ei chyfraniad i'r byd barddoniaeth.
Gwobr sydd yn cael ei rhoi yn flynyddol yw ‘Cholmondeley Awards’ a Menna Elfyn sydd wedi cipio'r tlws eleni.
Cafwyd seremoni arbennig yn Eglwys Gadeiriol Southwark yn Llundain nos Fercher.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd: "Rwy’n falch o dderbyn yr anrhydedd hon yn dilyn fy llwyddiant i rannu fy marddoniaeth Gymraeg: ei chyfoeth a’i swyn i’r byd."
Mae Seamus Heaney a Carol Ann Duffy ymysg y beirdd sydd wedi ennill y wobr yn y gorffennol.
Ychwanegodd: "(Mae) bod yng nghwmni Seamus Heaney yn arbennig iawn, achos mi ro’dd e’n ysbrydoliaeth imi pan o’n i’n dechrau ysgrifennu, ac yn dal i fod."
Mae gwaith Menna Elfyn wedi ymddangos mewn llefydd annisgwyl dros y byd, gan gynnwys ar y Metro yn Hong Kong a Porto.
Cafodd cyfieithiad o’i cherdd, ‘Broes’, hefyd ei harddangos ar y Tube yn Llundain.
Dywedodd nad oedd hi’n gwybod bod ei cherdd wedi cael ei dewis i ymddangos ar y Tube tan iddi dderbyn e-byst "wrth wahanol bobl yn gweud eu bod nhw’n eistedd ar y Tube yn llefen achos mae’r gerdd am gancr, am golli rhywun."
Mae Menna wedi cyhoeddi pymtheg cyfrol o farddoniaeth Gymraeg, sydd wedi’u cyfieithu i ugain o ieithoedd gwahanol.
Cyhoeddodd ei chyfrol ddiwethaf, Tosturi, ym mis Ebrill gyda chyhoeddiadau Barddas.