Y Rhufeiniaid wedi treiddio ymhellach yng Nghymru yn ôl tystiolaeth newydd

Roedd y Rhufeiniaid wedi treiddio ymhellach i'r gorllewin yng Nghymru yn ôl ymchwil newydd gan archeolegydd.
Dywedodd Dr Mark Merrony o Brifysgol Rhydychen fod hen ffordd wedi ei darganfod yn ardal y Preseli yn Sir Benfro.
Dywedodd: “Mae hyn yn dangos fod presenoldeb y Rhufeiniaid llawer yn fwy ar draws Sir Benfro. Mae yna dybiaeth nad oedden nhw wedi mynd ymhell yng Nghymru ond redden nhw reit ar draws y wlad.”
Mae Dr Merrony wedi dod o hyd i ran o hen ffordd Rufeinig wedi ei chladdu mewn mawn.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Dr Mark Merrony