Apêl gan yr heddlu yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ym Mhen Llŷn
05/06/2022
Mae Heddlu’r Gogledd wedi lansio apêl am ragor o wybodaeth wedi i ddyn 20 oed farw mewn gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn ddydd Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car BMW X3 glas a Ford Fusion du ar ffordd y B4354 rhwng Y Ffôr a'r Fron am tua 13.30 ddydd Sadwrn.
Bu farw’r dyn 20 oed o'i anafiadau yn dilyn y gwrthdrawiad ac fe gludwyd dyn 57 oed i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau sy’n peryglu ei fywyd.
Mae'r teuluoedd yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu yn syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod B080679.