O leiaf 40 wedi marw a channoedd wedi eu hanafu mewn ffrwydrad ym Mangladesh

Mae o leiaf 40 o bobl wedi marw a channoedd wedi eu hanafu yn dilyn tân a ffrwydrad mewn storfa ger dinas Chittagong ym Mangladesh.
Roedd cannoedd o bobl yn brwydro’r tân pan ffrwydrodd nifer o gynwysyddion yn y storfa.
Yn ôl adroddiadau roedd cemegau yn cael eu storio yn y cynwysyddion.
Mae o leiaf pump o ymladdwyr tân ymhlith y rhai fu farw.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit