Wcráin: Bomio’n ail ddechrau yn y brifddinas Kyiv

Mae adroddiadau fod lluoedd Rwsia wedi ail ddechrau bomio ardaloedd ym mhrifddinas Wcráin, Kyiv fore Sul.
Dywedodd maer y ddinas, Vitali Klitschko fod ffrwydradau wedi eu clywed mewn dwy ardal o’r ddinas ond nid oes adroddiadau fod unrhyw un wedi eu lladd hyd yma.
Daw hyn wedi cyfnod o dawelwch yn y brifddinas ers rhai wythnosau.
Mae Gweinidog Tramor Wcráin, Dmytro Kuleba wedi barnu Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, am alwadau i beidio â “bychanu” Rwsia er mwyn diplomyddiaeth.
Dywedodd Mr Kuleba roedd galwadau o’r fath dim ond yn mynd i “fychanu Ffrainc a’r gwledydd hynny sy’n gofyn am yr un peth.”
Darllenwch fwy yma.
Llun: Wochit