Annog mwy o ymgeiswyr ifanc ac o gefndiroedd amrywiol ar gyfer etholiadau

Mae dirprwy arweinydd newydd Cyngor Sir Conwy am weld mwy o ymgeiswyr ifanc ac o gefndiroedd amrywiol yn ymgeisio mewn etholiadau lleol yn y dyfodol.
Dywedodd y cynghorydd Emily Owen, sy'n 27 oed, bod angen i wleidyddiaeth newid er mwyn i bobl ifanc wasanaethu ar gynghorau.
Y cynghorydd Owen hefyd sy’n dal y portffolio tai ar gabinet y sir.
Mae hi’n un o 26 cynghorydd newydd allan o 54 yn y sir.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Emily Owen