Dyn o Fangor wedi'i garcharu am geisio rheoli ei gyn-bartner
Mae dyn 44 oed o Fangor wedi ei garcharu am flwyddyn am ei ymddygiad rheolaethol tuag at ei gyn-bartner.
Fe wnaeth Carl Thomas, o Min Y Ddol, Maesgeirchen, Bangor, ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ar ôl cyfaddef ymosodiad ac ymddygiad rheolaethol a gorfodaethol,
Roedd perthynas Thomas â'i gyn-bartner wedi dod i ben ar ôl iddo gael ei garcharu am ymosodiad blaenorol yn ei herbyn.
Fe wnaeth geisio ei rheoli trwy chwilio trwy ei heiddo personol a ffonio ei gweithle gan fynnu gwybod ble roedd hi. Gofynnodd y ddynes i Thomas adael ei chartref ar ôl iddo droi i fyny'n feddw, ond gwrthododd a daeth tuag ati â dwrn wedi'i godi.
Cafodd ei wthio allan o'r tŷ. Cafodd Thomas ei garcharu am flwyddyn a chafodd orchymyn atal am chwe mlynedd i amddiffyn y dioddefwr.
Dywedodd y Rhingyll Dditectif Geraint Jones: “Roedd gweithredoedd parhaol Thomas i reoli a dychryn ei gyn-bartner yn frawychus iddi hi a'i theulu.
“Rwy'n canmol ei dewrder am ddod ymlaen a cheisio cefnogaeth er gwaethaf profiad mor ofidus.
"Gobeithio bod dedfryd Thomas yn rhoi rhywfaint o sicrwydd iddi.
“Rwy’n annog unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig i geisio cefnogaeth. Byddwn yn gwrando arnoch chi ac yn ymchwilio’n llawn i unrhyw adroddiad a wneir i ni.”
