Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Medal Gelf Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022

04/06/2022
S4C

Catrin Jones o Lanwnnen, Ceredigion yw enillydd Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc a Nel Thomas o Gaerdydd yw enillydd Medal Gelf, Dylunio a Thechnoleg Eisteddfod yr Urdd Dinbych 2022. 

Image
Catrin Jones
Mae Catrin Jones yn ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr

Cyflwynir Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc, gwerth £2000 gan y diweddar Dr Dewi Davies a’i deulu, am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng Bl.10 ac o dan 25 oed. Cyflwynir y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol yn y categori oedran blwyddyn 10 ac o dan 19 oed, ac fe’i rhoddir gan Bapur Bro Y Bigwn.

Mae Catrin, enillydd yr Ysgoloriaeth, yn 18 oed ac yn dod o Lanwnnen ger Llambed. Mae hi’n ddisgybl yn Ysgol Bro Pedr ac newydd gwblhau ei arholiadau Lefel A mewn Celf, Hanes ac Addysg Grefyddol. Yn y dyfodol ei gobaith yw dilyn cwrs sylfaen mewn celf ac yna symud ymlaen i gwrs gradd. Cyflwynodd ei gwaith cwrs lefel A ar gyfer y gystadleuaeth gan ddewis y thema ‘static’ sy’n crynhoi ei diddordeb mewn materion fel hawliau menywod a iechyd meddwl. Roedd hi’n awyddus i arddangos y pynciau hyn drwy greu darnau anarferol a thywyll.

Dywedodd Catrin: “Dwi wastad wedi mwynhau celf. Cynyddodd fy niddordeb yn ystod y cyfnod clo ac wrth astudio’r cwrs celf TGAU a Lefel A. Byddaf yn defnyddio'r arian i brynu deunyddiau, gan fod defnyddiau celf yn mor ddrud.”

Mae Nel Thomas, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn 16 oed. Mae hi’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cymraeg Plasmawr, Caerdydd ac newydd sefyll ei arholiadau TGAU yn cynnwys Celf, Cerdd a Graffeg. 

Image
Nel Thomas
Mae Nel Thomas yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Plasmawr

Dywedodd Nel: “Dwi’n gobeithio mynd ymlaen i astudio lefel A mewn Celf, Graffeg, Bioleg a Throseddeg. Yn y dyfodol rwyf yn ystyried gyrfa mewn Anthropoleg Fforensig, gyrfa ble gallaf ddefnyddio fy sgiliau arlunio hefyd.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.