Newyddion S4C

Trigolion hŷn yn aros dros bum mlynedd am dai cymdeithasol

Theresa Barry

Mae adroddiadau fod trigolion hŷn wedi bod yn disgwyl dros bum mlynedd am eiddo yn ardal Wrecsam.

Mae cais Rhyddid Gwybodaeth wedi datgelu bod 50 o bobl yn Wrecsam yn y ddau fand blaenoriaeth uchaf yn y fwrdeistref sirol sydd dros 65 ac wedi bod yn aros am dai cymdeithasol ers rhwng un a phum mlynedd.

Yn ogystal, mae saith arall o drigolion dros 65 yn y ddau brif grŵp blaenoriaeth hynny sydd wedi bod yn aros am fwy na phum mlynedd i gael cartref neu ailgartrefu.

Mae Theresa Barry, dynes 82 oed, yn un o’r bobl sy’n byw mewn byngalo ym Mhonciau.

Mae hi wedi bod yn aros ers 2018 i gael ei hailgartrefu oherwydd lleithder parhaus a llwydni du sydd, meddai hi, wedi gwneud ei chyflyrau anadlu, calon a chroen yn waeth.

“Does dim ots gan y cyngor,” meddai.

“Maen nhw’n dod draw i grafu’r mowld a phaentio drosto gyda thriniaeth arbennig, ond mae’r aer yn drwchus gyda lleithder ac mae’n anodd anadlu.”

“Mae angen i mi symud i gartref mwy addas oherwydd rydw i wedi gorfod byw fel hyn ers blynyddoedd,” meddai.

Adroddodd yr un cais Rhyddid Gwybodaeth fod 3,104 o drigolion Wrecsam yn aros naill ai i gael eu dyrannu i dai cymdeithasol neu i gael eu symud i dai cymdeithasol mwy addas.

'Gweithio'n galed'

Mae adroddiadau bod un person sydd dros 65 oed wedi bod yn disgwyl 13 mlynedd i’r diwrnod i gael ei symud i lety mwy addas.

Mae trigolion band un yn cael eu blaenoriaethu oherwydd angen meddygol, risg o galedi ariannol oherwydd tan-feddiannaeth neu wedi eu rhyddhau o’r fyddin.

Mae trigolion band dau yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth oherwydd ffactorau fel digartrefedd, neu eu bod yn byw mewn tai anfoddhaol fel yr aseswyd gan Iechyd yr Amgylchedd.

Mewn ymateb i’r ffigyrau, dywedodd David Bithell, cynghorydd Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, fod yr adran yn “gweithio’n galed i adeiladu tai cyngor newydd i ateb y galw cynyddol.”

Dywedodd eu bod wedi prynu 28 eiddo ychwanegol yn ôl dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ychwanegu at eu stoc tai o 11,000 eiddo, a’u bod wedi adnewyddu tri chynllun tai gwarchod gyda chyfuniad o 70 o unedau rhyngddynt.

“Mae cynllun tai gwarchod ychwanegol i fod i gael ei gwblhau yn gynnar yn yr haf gyda 38 o unedau pellach.” meddai.

“Rydym wedi ymrwymo i adeiladu eiddo newydd ac mae gennym nifer o ddatblygiadau newydd yn yr arfaeth gan gynnwys chwe chartref cyngor newydd yn Nhre Ioan sydd bron â chael eu cwblhau.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.