Cymru v Wcráin: 'Byddai’n cysgu’n dda heno’

Mae rheolwr Cymru Robert Page wedi dweud y bydd yn “cysgu’n dda heno” cyn y gêm fawr yn erbyn Wcráin yng Nghaerdydd dydd Sul.
Dywedodd Page mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Sadwrn ei fod yn “ymddiried yn y chwaraewyr.”
Ychwanegodd nad oedd ganddo unrhyw broblemau gyda ffitrwydd y chwaraewyr.
Dywedodd:“Ry ni wedi ymarfer yn dda. Mae gynnon ni gynllun a rhaid i ni ymddiried yn y cynllun a gwneud ein gorau. O ran paratoi ry’ ni’n ceisio trin y gêm fel unrhyw un arall ond ry' ni’n gwybod beth yw arwyddocâd y gêm.”
Darllenwch fwy yma.