Newyddion S4C

Heddlu Llundain yn cau Sgwâr Traffalgar oherwydd cerbyd ‘amheus’

The Sun 04/06/2022
Sgwâr Traffalgar

Roedd Heddlu’r Met yn Llundain wedi cau Sgwâr Traffalgar am gyfnod ddydd Sadwrn i ddelio gyda cherbyd “amheus”.

Rhybuddiodd yr heddlu i bobl gadw draw o’r ardal.

Dywedodd llygad dystion eu bod nhw wedi clywed ffrwydrad.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw wedi cynnal “ffrwydrad rheoledig” a bod yr ardal ar agor unwaith eto.

Ychwanegodd yr heddlu nad oedd y digwyddiad yn ymwneud â therfysgaeth.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter/Belinda Jiao

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.