Brexit: Rhybudd o “anrhefn’ am ddiddymu rheolau Ewrop

Brexit
Mae cyfreithwyr ac arweinwyr busnes wedi rhybuddio llywodraeth y DU yn erbyn diddymu rheoliadau Ewrop yn gyffredinol.
Mae pryder y gall hyn wneud nwyddau o’r DU yn “anwerthadwy” yn Ewrop.
Yn ôl adroddiadau mae’r Gweinidog Cyfleoedd Brexit, Jacob Rees-Mogg wedi dweud wrth y cabinet ei fod yn bwriadu cyflwyno dyddiad cau o bum mlynedd ar tua 1,500 darn o ddeddfwriaeth yr UE.
Yn ôl arweinwyr busnes gall y newidiadau yma arwain at gymhlethdod ac ansicrwydd i gwmnïau sy’n gorfod dygymod â rheolau newydd ers Brexit.
Darllenwch fwy yma.