Cymry'r West End wedi methu cyrraedd ffeinal Britain's Got Talent

04/06/2022
Welsh of the West End

Mae perfformwyr Cymry’r West End wedi methu cyrraedd ffeinal y sioe deledu Britain’s Got Talent ar ITV.

Roedd criw Welsh of the West End wedi gorffen yn nhri uchaf y sioe nos Wener yn dilyn pleidlais y cyhoedd.

Ond penderfynodd y beirniaid i ddewis yr amgylcheddwr saith oed Aneeshwar Kunchala i ymuno â'r digrifwr Axel Blake ar gyfer ffeinal y rhaglen nos Sul am 19:30.

Yn y rownd gynderfynol nos Wener, fe berfformiodd y criw eu haddasiad o'r gân You will be found allan o'r sioe gerdd Dear Evan Hansen.

Mae llygedyn o obaith o hyd wrth i'r criw aros i weld os ydyn nhw'n cael eu dewis fel wildcard ar gyfer y ffeinal.

Mae’r criw wedi ffurfio ers dwy flynedd ac yn perfformio caneuon allan o sioeau cerdd adnabyddus fel Les MisérablesPhantom of the Opera a Wicked.

Ymysg y cantorion i berfformio fel rhan o Welsh of the West End mae Steffan Rhys, Sophie Evans, Luke McCall a Mared Williams.

Yn ystod y cyfnod clo, roedd y criw yn perfformio ar-lein ac fe wnaethon nhw ddenu dros 15 miliwn o wylwyr.

Yn gynharach eleni roedd y criw yn perfformio yn y Royal Albert Hall gyda Syr Bryn Terfel a Cherddorfa Gyngerdd y BBC.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.