Twm Ebbsworth yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Twm Ebbsworth sydd wedi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022.
Y dasg oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema ‘Llen/Llenni’.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Osian Wynn Davies o Lanfairpwll, Ynys Môn ac enillydd y Fedal Ddrama eleni, ac Elain Roberts o Gei Newydd, Ceredigion ddaeth yn drydydd.
Y beirniaid oedd Sian Northey a Gwenno Mair Davies.
Dywedodd Sian Northey am y gwaith buddugol: “Roeddem yn hollol gytûn bod y wobr gyntaf, a Choron Eisteddfod Dinbych, yn mynd i Pysgodyn Aur – llenor aeddfed a chrefftus wnaeth ein tywys ar daith wallgof a gwahanol.
"Roedd hwn yn ddarn gwahanol iawn yn llawn hiwmor tywyll a swreal a apeliodd yn fawr at y ddwy ohonom o'r darlleniad cyntaf. Llongyfarchiadau mawr.”
Mae Twm yn derbyn coron wedi’i chreu gan y cerflunydd Ann Catrin, a’i rhoi gan Gymdeithas Gymraeg Dinbych.
Daw Twm o bentref Llanwnnen, ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion. Mae ar fin cwblhau cwrs ôl-radd yn Adran y Gymraeg Aberystwyth. Yn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, enillodd Gadair Genedlaethol y Mudiad yn 2019, ynghyd â dwy Goron Eisteddfod Ryng-golegol yn 2020 a 2022.
Mae wrth ei fodd yn chwarae gitâr ac yn chwarae pêl-droed i dîm y Geltaidd yn Aberystwyth yn ogystal â thîm lleol Sêr Dewi. Yn gefnogwr brwd o Tottenham Hotspur yn ogystal â’r tîm pêl-droed cenedlaethol, mae’n edrych ymlaen yn fawr i’r gêm yn erbyn Wcráin ddydd Sul.
Dywedodd Twm: “Hoffwn ddiolch yn fawr i’m cyn-athrawon am eu hysbrydoliaeth a’u cefnogaeth; ac yn arbennig i Mrs Delor James, cyn Bennaeth y Gymraeg ym Mro Pedr am ei hanogaeth gyson ac i Eurig Salisbury yn y Brifysgol am ei gefnogaeth.
"Ac wrth gwrs, diolch i fy nheulu a ffrindiau am eu cyfeillgarwch, eu hamynedd a’u cefnogaeth, yn arbennig i Lleucu, Mam, Dad a Guto.”
Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er cof am Olwen Dafydd. Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.