Llywodraeth Twrci'n gwneud cais i newid enw'r wlad i Türkiye

Mae llywodraeth Twrci wedi gwneud cais i'r Cenhedloedd Unedig i newid enw'r wlad i Türkiye.
Daw'r newid fel rhan o ymgyrch y llywodraeth i dorri cysylltiadau rhwng enw'r wlad ag enw'r aderyn er mwyn osgoi unrhyw syniadau negyddol sy'n gysylltiedig â thyrcïod.
Mae'r awdurdodau yn Ankara wedi cyflwyno nifer o newidiadau i hybu'r defnydd o enw traddodiadol y wlad gan ddefnyddio Türkiye ar ddogfennau swyddogol a newid labeli ar nwyddau sy'n cael eu hallforio o'r wlad.
Darllenwch fwy yma.